Beth yw Hysbysfwrdd Tai Cymru?


Yn union beth mae'r enw yn ei awgrymu.  Man canolog ar gyfer popeth sy'n ymwneud â thai yng Nghymru....wel bron popeth!

 

Mae'r Hysbysfwrdd yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i ddiweddaru'ch gwybodaeth o'r ddadl dai ddiweddaraf ac ymarfer da.

  • Gweld yr hyn y mae'r rhwydweithiau tai yn ei wneud. 
  • Cyfnewid barn, syniadau a phrofiadau gydag eraill sy'n gweithio ym maes tai yn y fforymau trafod.  
  • Sicrhau na fyddwch yn methu unrhyw ddigwyddiadau tai.  

Ac yn bwysicaf oll .... dylanwadu ar bolisi cenedlaethol a chodi proffil materion tai yng Nghymru.  

*** Newydd Diweddaraf ***

Mae'r Cydlynydd Datblygu Rhwydweithiau Tai wedi dechrau yn ei swydd.  Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Chwilio am sialens newydd? Cliciwch yma i ddarllen am fod yn Swyddog Prosiect Rhwydweithiau Tai. 

 

Ar gyfer pwy mae'r Hysbysfwrdd? 

 

Erfyn yw'r Hysbysfwrdd ar gyfer holl weithwyr proffesiynol ym maes tai yng Nghymru.  Bydd Prif Swyddogion Tai, staff rheng flaen, rheiny sy'n gweithio ar strategaeth ac ymchwilwyr yn elwa o ddod o hyd i'r holl wybodaeth sydd ei angen arnynt mewn un man, a mwynhau'r cyfle i drafod a dylanwadu ar lunio polisïau'r dyfodol.

I ddechrau defnyddio'r Hysbysfwrdd, cliciwch yma i gofrestru. 

 

Pwy ddatblygodd yr Hysbysfwrdd? 

 

Mae'r Hysbysfwrdd wedi ei ddatblygu gan Banel Prif Swyddogion Tai Cymru Gyfan (AWCHOP) gyda chymorth technegol Tîm y We Cyngor Sir Powys.  Ariannwyd y prosiect yn rhannol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyda Grant Rheoli Tai Cymdeithasol. 

I ddarllen mwy am y prosiect cliwiwch yma.